Mae ofnau yn finteioedd llawn

(Cwyno o herwydd ofnau)
Mae ofnau yn finteioedd llawn,
  Rai creulawn iawn eu rhyw,
Yn taeru yn fy wyneb gwan
  Na feddaf ran yn Nuw.

A minnau yn llyfrhau yn lân,
  Heb wybod ffordd i droi;
Nac ysbryd genyf ' fyn'd y'mlaen,
  Nac ysbryd genyf ' ffoi,

Chwilio, a manwl chwilio'r wyf,
  Ar aswy ac ar dde;
Ac etto methu symud cam
  I fynu tu a'r ne'.

O edrych arnaf, Arglwydd mawr,
  Mae bellach yn brydnawn;
O llanw yr euog, tlawd, sy heb ddim,
  A'th nefol ddwyfol Ddawn.

Rho brawf o'r
    gwin wasgwyd i maes,
  O'r bêr winwydden fry,
Fel gallwyf fythol lawenhau
  Yn dy ogoniant di.
Yn taeru :: Y pledio
Nac ... genyf ' fyn'd y'mlaen :: Nac ... geny' i fentro 'mlaen
genyf ' ffoi :: geny' i ffoi
A'th :: O'th
fythol lawenhau :: fyth i lawenhau

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Claudius Ptolemeus (A H Mann 1850-1929)
Cologne (alaw Ellmynig)
Gwrecsam (Psalmydd Ravenscroft)
Ludwig (L van Beethoven 1770-1827)

gwelir: O tyred Arglwydd saif wrth raid

(Complaining because of fears)
There are fears in full droves,
  Some of a very cruel kind,
Insisting to my weak face
  That I have no part in God.

And I losing heart completely,
  Without knowing which way to turn;
Nor having a spirit to go onwards,
  Nor having a spirit to flee.

Searching, and carefully searching I am,
  On the left and on the right;
And still failing to move a step
  Up towards heaven.

O look upon me, great Lord,
  It is now afternoon;
O fill the guilty, poor, who have nothing,
  With thy heavenly, divine Gift.

Grant an experience of the
    wine pressed out,
  Of the sweet vine above,
Thus may I forever rejoice
  In thy glory.
Insisting :: Pleading
Nor having ... to go onwards :: Nor having ... to venture onwards
::
With thy :: From thy
::

tr. 2018 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~